Annwyl Gydweithiwr,
Cynllun Corfforaethol Cyngor Bro Morgannwg 2025-30 – Digwyddiad ymgysylltu 18 Gorffennaf 2024
Rydymyn ysgrifennu i estyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni mewn sesiwn galw heibio ar 18 Gorffennaf rhwng 2 a 6pm yn Ystafell Dwnrhefn, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU i drafod datblygiad Cynllun Corfforaethol newydd ein Cyngor ar gyfer 2025-30.
Bydd y sesiwn galw heibio hon yn gyfle i siarad â ni am y cynllun newydd a bydd yn rhedeg o 2-6pm (a gallwch alw heibio cyhyd ag y dymunwch yn ystod y cyfnod hwnnw). Bydd hefyd yn gyfle i sgwrsio â ni am ein perfformiad fel cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf a sut mae hynny’n llywio gweithgareddau yn y dyfodol.
Y Cynllun Corfforaethol yw ein dogfen strategol bwysicaf gan ei fod yn nodi’r meysydd ffocws allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ein blaenoriaethau, ein gweithgareddau allweddol a’r canlyniadau yr hoffem weld yn cael eu cyflawni.
Rydym ar gamau cynnar datblygu’r gwaith hwn ac yn awyddus i gynnwys ein partneriaid a sefydliadau eraill ledled y Fro i gael eich syniadau ar gyfer y canlyniadau allweddol y dylem fod yn ceisio eu cyflawni dros y blynyddoedd i ddod.
Fel rhan o’r ymgysylltu ar y Cynllun newydd, hoffem siarad am ein hamcanion newydd arfaethedig. Rydym wedi datblygu ein hamcanion drafft gan edrych ar ganlyniadau ein harolwg trigolion diweddar ac amrywiaeth o wybodaeth arall am y Fro, ein cymunedau a’n gwasanaethau lleol. Rydym yn gwybod y bydd ga n ein cynllun newydd bwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth ac rydym yn awyddus i siarad â chi am y syniadau sy’n dod i’r amlwg.
Bydd ein Cynllun 2025-30 yn nodi Amcanion Lles newydd a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer gweithgareddau dros y blynyddoedd nesaf a thu hwnt. Rydym yn deall y bydd yr hyn a wnawn nawr yn effeithio ar sut olwg fydd ar y dyfodol.
Byddwn allan dros fisoedd yr haf mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau yn siarad â’r cyhoedd am ein cynllun newydd. Yn yr Hydref, byddwn yn cynnal rhaglen ymgynghori ffurfiol ar y cynllun drafft cyn cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Ebrill 2025.
Ein gweledigaeth yw cymunedau cryf gyda dyfodol disglair a bydd ein Cynllun newydd yn nodi’r cam nesaf yn y daith honno a sut y bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni dros y Fro.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y 18fed a chlywed eich barn ar sut y gallwn ganolbwyntio ar y bobl a’r lleoedd a chyflawni’r weledigaeth honno. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu dod drwy e-bostio [email protected]. Os na allwch fod yn bresennol, ond byddech yn croesawu’r cyfle i rannu eich meddyliau, rhowch wybod i ni hefyd.
Yn gywir,
Dear Colleague,
Vale of Glamorgan Council Corporate Plan 2025-30 – Engagement event 18th July 2024
We are writing to extend a warm invitation to you to join us at a drop-in session on the 18th July between 2-6pm in Dunraven Room, Civic Offices, Holton Road, Barry, CF63 4RU to discuss the development of our Council’s new Corporate Plan 2025-30.
This drop-in session will be an opportunity to talk with us about the new plan and will run from 2-6pm (and you can drop in for as long as you like during that time). It will also be an opportunity to chat with us about our performance as a council over the past year and how that is informing future activity.
The Corporate Plan is our most important strategic document as it sets out the key areas of focus for the next five years, our priorities, key activities and the outcomes we’d like to see achieved.
We are at the early stages of developing this work and are keen to involve our partners and other organisations across the Vale in gaining your ideas for the key outcomes we should be looking to deliver over the coming years.
As part of the engagement on the new Plan we want to talk about our proposed new objectives. We’ve developed our draft objectives looking at the results of our recent residents survey and a range of other information about the Vale, our communities and local services. We know that our new plan will have a strong emphasis on partnership working and we are keen to talk with you about the emerging ideas.
Our 2025-30 Plan will set out new Well-being Objectives which will provide a framework for activity over the coming years and beyond. We understand that what we do now will impact on what the future will look like.
We will be out and about over the summer months at a range of events talking to the public about our new plan. In the Autumn we will undertake a programme of formal consultation on the draft plan ahead of a final version being published in April 2025.
Our vision is strong communities with a bright future and our new Plan will set out the next stage in that journey and how the Council will continue to work in partnership to deliver for the Vale.
We look forward to seeing you on the 18th and to hearing your views as to how we can focus on the people and places and deliver that vision. Please let us know if you are attending by emailing [email protected]. If you are unable to attend, but would welcome the opportunity to share your thoughts, please also let us know.
Yours,
Lis Burnett Councillor/Cynghorydd Executive Leader and Cabinet Member for Performance and Resources Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau Vale of Glamorgan Council / Cyngor Bro Morgannwg tel / ffôn: 01446 709470 mob / sym: 07927588974 e-mail / e-bost: [email protected]
| Rob Thomas Chief Executive / Prif Weithredwr Vale of Glamorgan Council / Cyngor Bro Morgannwg tel / ffôn: 01446 709202 mob / sym: 07976112338 e-mail / e-bost: [email protected]
|